Blynyddoedd 10 ac 11 - Wythnos Profiad Gwaith
Oes gennych chi ddiddordeb yn y theatr?
Ymunwch â ni am wythnos Profiad Gwaith llawn cyffro, lle gewch gyfle i archwilio ein holl adrannau o Gynhyrchu i Ymgysylltu Creadigol a darganfod mwy am y diwydiant theatr.
Cyfle i gael cipolwg ar sut mae’r theatr yn gweithio ac yn cael ei rhedeg
Cwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant
Mynychu gweithdai a arweinir gan bob adran
Cysylltu â phobl ifanc sydd â diddordeb ym myd y theatr