Cynorthwy-ydd Cefnogi'r Cwmni (UDA)
Cyfrifoldebau allweddol
•Cynnal rheolaeth ar y dyddiadur a chydlynu cyfarfodydd ac apwyntiadau eraill yn effeithlon ar ran yr uwch dîm arwain, yn ôl yr angen.
•Cynnal systemau a phrosesau effeithiol ar gyfer cefnogi a chyfathrebu gyda'r uwch dîm arwain.
•Darparu cefnogaeth i'r uwch dîm arwain wrth ymateb i geisiadau a'u didoli ar eu rhan.
•Sicrhau bod gan aelodau'r uwch dîm arwain yr holl bapurau angenrheidiol ar gyfer cyfarfodydd ymlaen llaw, a bod unrhyw gyfarwyddiadau / fanylion yn cael eu sicrhau cyn y cyfarfodydd.
•Cynorthwyo gydag unrhyw brosiectau, ymchwil neu ddarnau o waith fel sy'n ofynnol gan yr uwch dîm arwain.
•Cynorthwyo i baratoi cyflwyniadau, adroddiadau a dogfennau yn ôl yr angen.
•Cynorthwyo i drefnu cyfarfodydd tîm arferol, gan gynnwys sefydlu a darparu cefnogaeth mewn cyfarfodydd ar gyfer cyfarfodydd Microsoft Teams.
•Cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd yn ôl yr angen.
•Dilyn unrhyw bwyntiau gweithredu sy'n deillio o gyfarfodydd yn ôl yr angen.
•Cynorthwyo gyda threfnu digwyddiadau gan gynnwys dyddiau cwrdd i ffwrdd a chyfarfodydd eraill yn ôl yr angen.
•Trefnu'r holl drefniadau teithio a llety angenrheidiol ar gyfer yr uwch dîm arwain yn ôl yr angen.
•Cynnal lefel uchel o gyfrinachedd o ran materion sy'n ymwneud â chyflogeion, ymddiriedolwyr a phartneriaid allanol. Ymateb yn gadarnhaol gyda doethineb, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth i bawb mewn perthynas â'r dyletswyddau a gyflawnir.
•Cyflenwi ar gyfer y Swyddog Gweithredol yn ôl yr angen.
•Unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n berthnasol i'r swydd fel y cytunwyd gyda'ch Rheolwr Llinell.
•Teitl y Rôl - Cynorthwy-ydd Cefnogi'r Cwmni (UDA)
•Math o Gontract - Parhaol
•Teulu - Cefnogi'r Cwmni
•Arbenigedd y tîm - Cefnogi'r Cwmni
•Oriau - 37 awr yr wythnos
•Cyflog cychwynnol - £23,407
•Gradd cyflog - OP2
•Yn atebol i - Rheolwr Cefnogi'r Cwmni
Shortlisting of applications and interviews for the role will take place while the advert is live; the advert will close once the successful candidate(s) are found. Candidates are therefore encouraged to submit applications as soon as possible.
: Recruitment Pack - Welsh