Director of Finance & Operations / Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau
We are looking to appoint a new Director of Finance & Operations to join our Senior Leadership Team.
The successful candidate will join Theatr Clwyd Trust and trading group at an exciting time, having just completed our first year of trading in a newly redeveloped arts and theatre site following a £50m capital investment. The role has senior responsibility for financial and operational strategy in support of the CEO and will enjoy a wide variety of input across delivery relating to these important areas. As the biggest producing theatre in Wales, and a place of learning, community care, and wider cultural delivery, Theatr Clwyd is a welcoming environment, and all members of the company are encouraged to embed the highest standards of person-centred delivery throughout their work. The role oversees finance and operations across Theatr Clwyd’s activities, including at William Aston Hall in Wrexham, in partnership with our Food & Beverage partner, Bryn Williams, and through our second charity – Theatr Clwyd Music Trust.
We are very excited to meet candidates who have strong financial and operational leadership experience, and who are keen to work within a creative and exciting environment. A passion for arts and culture, and a willingness to work flexibly and collaboratively are essential. We look forward to meeting qualified and brilliant individuals.
For more information or an informal chat about this role please contact:
Liam Evans-Ford, Executive Director, Liam.EvansFord@theatrclwyd.com
Rydym yn awyddus i benodi Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau newydd i ymuno â'r Uwch Dîm Arwain.
A ninnau newydd gwblhau ein blwyddyn gyntaf o fasnachu ar safle theatr a chelfyddydau sydd bellach ar ei newydd wedd – ar ôl buddsoddiad cyfalaf o £50 miliwn – bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd a'r grŵp masnachu mewn cyfnod cyffrous iawn. Bydd gan yr unigolyn gyfrifoldeb uwch am strategaeth ariannol a gweithredol i gefnogi'r Prif Swyddog Gweithredol. Bydd cyfle i gyfrannu at gyflawni amcanion sy'n ymwneud â'r meysydd pwysig hyn mewn llawer o wahanol ffyrdd. Fel y theatr gynhyrchu fwyaf yng Nghymru, a lle sy'n meithrin dysg a gofal cymunedol ac yn cynnig darpariaeth ddiwylliannol ehangach, mae Theatr Clwyd yn cynnig croeso cynnes. Anogir holl aelodau'r cwmni i roi pwyslais ar yr unigolyn ym mhob rhan o’u gwaith, a gwneud hynny i’r safon uchaf. Mae'r rôl yn goruchwylio cyllid a gweithrediadau Theatr Clwyd, gan gynnwys yn Neuadd William Aston yn Wrecsam, mewn partneriaeth â'n partner Bwyd a Diod, Bryn Williams, a drwy ein hail elusen – Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth Theatr Clwyd.
Pleser o'r mwyaf fydd cwrdd ag ymgeiswyr sydd â phrofiad cryf o arweinyddiaeth ariannol a gweithredol, ac sy'n awyddus i weithio mewn awyrgylch creadigol a chyffrous. Mae angerdd dros y celfyddydau a diwylliant, ynghyd â pharodrwydd i weithio'n hyblyg ac yn gydweithredol, yn hanfodol. Edrychwn ymlaen at gwrdd ag unigolion cymwys a rhagorol.
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â
Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol, Liam.EvansFord@theatrclwyd.com
Equal Opportunities
We want our company to be representative of all sections of society and welcome applications from everyone. We believe diversity is about celebrating and valuing individuals. We have an equality of opportunity approach and aspire to give everyone the change to achieve their potential.
We would love to hear from you in whatever way feels most appropriate to you. If you would like to access an application pack or submit your application in another format, we would be happy to speak to you about your needs.
Please contact us on 01352 344101 or email us people@theatrclwyd.com to discuss further.
Theatr Clwyd recognises that the ability to communicate in Welsh is an important and valuable skill in the workplace. We welcome applications for any post from candidates who are able to work in both Welsh and English.
We will contact all unsuccessful candidates to tell them they have not been shortlisted for interview.
Cyfle Cyfartal
Rydyn ni eisiau i'n cwmni ni gynrychioli pob rhan o gymdeithas ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Rydyn ni’n credu bod amrywiaeth yn ymwneud â dathlu a gwerthfawrogi unigolion. Mae cyfle cyfartal yn hollbwysig i ni ac rydyn ni’n anelu at roi'r cyfle i bawb gyflawni eu potensial.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi ym mha ffordd bynnag sy'n teimlo fwyaf addas i chi. Os hoffech gael mynediad at y pecyn cais hwn neu gyflwyno eich cais mewn fformat arall, byddem yn hapus i siarad â chi am eich anghenion.
Cysylltwch â ni ar 01352 344101 neu people@theatrclwyd.com i drafod ymhellach.
Mae Theatr Clwyd yn cydnabod bod y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn sgil bwysig a gwerthfawr yn y gweithle. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau am unrhyw swydd gan ymgeiswyr sy'n gallu gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd aflwyddiannus i ddweud wrthynt nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Contract Type / Math o Gontract: Permanent / Parhaol
Hours / Oriau: 37 hours / 37 awr
Salary / Cyflog: £54,086-£61,297 (depending on experience / yn dibynnu ar brofiad)
Closing Date / Dyddiad cau: 10.00am - 16/11/26
Interview / Cyfweliad:
First interview /Cyfweliad cyntaf - 27/11/26
Second interview/ Ail gyfweliad - 04/12/26
Shortlisting of applications and interviews for the role may take place while the advert is live; the advert may close once the successful candidate(s) are found. Candidates are therefore encouraged to submit applications as soon as possible.
Efallai bydd y gwaith o lunio rhestr fer o'r ceisiadau a’r cyfweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal tra bydd yr hysbyseb yn fyw; bydd yr hysbyseb yn cau ar ôl dod o hyd i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.