People Officer / Swyddog Pobl

We have an exciting opportunity for a People Officer who will work alongside the Head of People. You will be the first stop for advice related to people for our Company and managers. A requirement of this role will be to ensure all administrative tasks related to the people function are in place, with the implementation of our new HRIS we are looking to automate as much of these processes as we can, and you will be encouraged and supported to do this. You will have the opportunity to be exposed to the full remit of the People function within the company and to be mentored to grow your career to build on and develop a great foundation in a People officer role.

For more information or an informal chat about this role please contact:

Laura Temple, Head of People, laura.temple@theatrclwyd.com 



Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Swyddog Pobl a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r Pennaeth Pobl. Chi fydd y cyswllt cyntaf ar gyfer rhoi cyngor i’n Cwmni a'n rheolwyr am bobl. Un o ofynion y rôl hon fydd sicrhau bod yr holl dasgau gweinyddol sy’n ymwneud â’r swyddogaeth pobl yn eu lle. Gyda gweithrediad ein HRIS newydd rydym yn edrych i awtomeiddio cymaint o’r prosesau hyn ag y bo modd, a chewch eich annog a’ch cefnogi i wneud hyn. Byddwch yn cael y cyfle i ddod i gysylltiad â chylch gorchwyl llawn swyddogaeth Pobl o fewn y cwmni. Cewch eich mentora i ddatblygu eich gyrfa ac adeiladu ar sylfaen wych mewn rôl swyddog Pobl a’i ddatblygu.

I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â

Laura Temple, Pennaeth Pobl, laura.temple@theatrclwyd.com 




We want our company to be representative of all sections of society and welcome applications from everyone.  We believe diversity is about celebrating and valuing individuals.  We have an equality of opportunity approach and aspire to give everyone the change to achieve their potential.   We would love to hear from you in whatever way feels most appropriate to you.  If you would like to access an application pack or submit your application in another format, we would be happy to speak to you about your needs. Please contact us on 01352 344101 or email us people@theatrclwyd.com to discuss further.  Theatr Clwyd recognises that the ability to communicate in Welsh is an important and valuable skill in the workplace.  We welcome applications for any post from candidates who are able to work in both Welsh and English.  We will contact all unsuccessful candidates to tell them they have not been shortlisted for interview. 
Rydyn ni eisiau i'n cwmni ni gynrychioli pob rhan o gymdeithas ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb.  Rydyn ni’n credu bod amrywiaeth yn ymwneud â dathlu a gwerthfawrogi unigolion. Mae cyfle cyfartal yn hollbwysig i ni ac rydyn ni’n anelu at roi'r cyfle i bawb gyflawni eu potensial. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi ym mha ffordd bynnag sy'n teimlo fwyaf addas i chi.  Os hoffech gael mynediad at y pecyn cais hwn neu gyflwyno eich cais mewn fformat arall, byddem yn hapus i siarad â chi am eich anghenion. Cysylltwch â ni ar 01352 344101 neu people@theatrclwyd.com i drafod ymhellach. Mae Theatr Clwyd yn cydnabod bod y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn sgil bwysig a gwerthfawr yn y gweithle. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau am unrhyw swydd gan ymgeiswyr sy'n gallu gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd aflwyddiannus i ddweud wrthynt nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.

Contract Type / Math o Gontract: Permanent / Parhaol

Hours / Oriau: 37 per week / Yr Wythnos

Salary / Cyflog: £27,643 

Closing Date / Dyddiad cau: 02/03/2025

Interview date / Dyddiad y Cyfweliad: 10/03/25, 17/03/25


Shortlisting of applications and interviews for the role may take place while the advert is live; the advert may close once the successful candidate(s) are found. Candidates are therefore encouraged to submit applications as soon as possible.


Efallai bydd y gwaith o lunio rhestr fer o'r ceisiadau a’r cyfweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal tra bydd yr hysbyseb yn fyw; bydd yr hysbyseb yn cau ar ôl dod o hyd i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.