Rheolwr Ymddiriedolaethau a Sefydliadau
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Datblygu llawn cymhelliant prif theatr gynhyrchu Cymru, Theatr Clwyd, yn dilyn ei phrosiect ailddatblygu cyfalaf mawr. Gan weithio’n agos gyda Chyfarwyddwr yr Ymgyrch Gyfalaf a'r Pennaeth Datblygu, bydd y Rheolwr Ymddiriedolaethau a Sefydliadau yn sicrhau'r incwm gorau posib gan ymddiriedolaethau, sefydliadau a ffynonellau statudol i gefnogi blaenoriaethau strategol y cwmni.
Efallai bydd y gwaith o lunio rhestr fer o'r ceisiadau a’r cyfweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal tra bydd yr hysbyseb yn fyw; bydd yr hysbyseb yn cau ar ôl dod o hyd i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.