Years 10 & 11 Work Experience Week 2026 / Wythnos Profiad Gwaith Blynyddoedd 10 ac 11 2026

daf3f3bb-a2d8-4f1e-898e-6fa7aa7aa548.jpg

Explore the world behind the scenes and discover all areas of our arts organisation. From creating sets to marketing the show, you’ll uncover some of the secrets of how theatre works…

No previous experience needed for this, just the willingness to try something new.

To Apply:-

In your cover letter, please tell us why you are interested in Theatr Clwyd and this opportunity.

If you would like to apply in an alternative format of a video, please send your application to people@theatrclwyd.com

Application Window:-

Monday 17th November – Applications Open

Monday 9th January – Applications Close

Recruitment Workshops:-

Thursday 5th February, 5-7pm & 7-9pm

Thursday 12th February, 5-7pm

Final Outcome:-

Successful applicants will be notified by Friday 20th February.

For more information or an informal chat about this role please contact Steve.Luckens@theatrclwyd.com


Wythnos Profiad Gwaith Blynyddoedd 10 ac 11 2026

Cyfle i archwilio'r byd y tu ôl i'r llenni a darganfod pob agwedd ar ein sefydliad celfyddydau. O greu setiau i farchnata'r sioe, byddwch yn datgelu rhai o’r cyfrinachau o ran sut mae theatr yn gweithio…

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol ar gyfer hyn, dim ond bod yn fodlon rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

I Wneud Cais:-

Yn eich llythyr eglurhaol, dywedwch wrthym pam mae gennych ddiddordeb yn Theatr Clwyd a'r cyfle hwn

Os hoffech chi wneud cais mewn fformat arall, sef fideo, anfonwch eich cais i people@theatrclwyd.com

Cyfnod Cyflwyno Cais:-

Dydd Llun 17eg Tachwedd – Ceisiadau’n Agor

Dydd Llun 9fed Ionawr – Ceisiadau’n Cau

Gweithdai Recriwtio:-

Dydd Iau 5ed Chwefror, 5-7pm a 7-9pm

Dydd Iau 12fed Chwefror, 5-7pm

Canlyniad Terfynol:-

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn dydd Gwener 20fed Chwefror.

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol i drafod y rôl, cysylltwch â Steve.Luckens@theatrclwyd.com os gwelwch yn dda.